"Annwyl Syr/Fadam,
Cyfeiriaf at eich cais am dystiolaeth o waith y cwmni uchod ar brosiect o’r gorffennol.
Fe ymgymerodd y cwmni â’r dasg o godi estyniad i Dolawen yn ystod gaeaf 2014/15. Roedd y gwaith yn golygu’r canlynol yn fras:
- Clirio’r safle;
- Darparu sylfeini a thraeniau newydd;
- Codi estyniadau unllawr yn cynnwys waliau o ffram bren a tho llechi;
- Gosod ffenestri velux a drysau patio newydd,
- Gwaith tirlunio a ffensio allanol
Trwy gydol y prosiect bu ymagwedd Mr Hughes a’i dîm yn broffesiynol a thryloyw gan gynnwys paratoi amcanbris cyflawn, realistig a dealladwy ar y cychwyn, gofal a chyfathrebu cyson yn ystod cyflawni’r posiect a chytuno a gweithredu parod ar y rhestr snagio ar ei ddiwedd. Fe gadwodd y cwmni at yr amserlen yn weddol gan gymryd i ystyriaeth yr amodau anffafriol a gafwyd y gaeaf dan sylw.
Dewch i gysylltiad os oes angen rhagor o wybodaeth neu eglurhâd pellach."
Yn gywir, Owain Wyn, B.Sc Econ, M. Sc, MBA MRTPI