01286 660351 | 07792 954850 |

Welsh dragonAdeiladwyr - BuildersWelsh dragon

Amdanom

Mae G A Hughes a’i Gwmni Cyf yn gwmni sydd â phrofiad helaeth yn y maes adeiladu ac sydd yn gweithio’n barhaus ar brosiectau cyffrous, o waith adnewyddu ac estyniadau i gartrefi presennol i drosi hen adeiladau yn gartrefi newydd.

Sefydlwyd y cwmni yn 2008 gan y briciwr, Geraint Hughes, ac fe ffynnodd y cwmni wrth iddo ddatblygu o fod yn friciwr i fod yn gontractwr adeiladu a rhoi’r busnes ar lwybr newydd.

Mae ein hymrwymiad i sicrhau ansawdd, ynghyd â thwf parhaus wedi’i reoli, yn sicrhau cleientiaid bodlon dro ar ôl tro. Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod wedi sefydlu perthynas gyfeillgar gyda’n cleientiaid, ac mae hynny wedi bod yn amlwg wrth i ni symud i weithio o un prosiect i’r llall. Ein nod yw bodloni disgwyliadau ein cleientiaid, cynnig proses reoli prosiect fanwl, sicrhau yr ansawdd gorau posibl, a bod sylw i gost a chyllideb yn flaenllaw bob amser.